Alana Tyson
Boob Car / Car Bŵb
Fabric and Wood
Ffabrig a Phren
2018
Quack, Quack, Quack / Cwac, Cwac, Cwac
Fabric and Wood
Ffabrig a Phren
2018
Initiated by Llandudno based artist Alana Tyson, mam.mom.mum, explored the many facets of motherhood. Tyson found becoming a mother a completely life altering experience, her practice irrevocably changed, she found herself questioning can you be a mother and an artist? Choosing to believe the answer is yes, Tyson has also come to the conclusion that for her the two are symbiotic, she is both at all times.
Tyson invited several other North Wales based mother-artists to participate in a mini residency, culminating in a group exhibition and site specific works. Alongside the resultant installations were several workshops with local mothers in which they could unleash their creativity and explore their own status as mothers.
Wedi'i gychwyn gan yr artist o Landudno Alana Tyson, archwiliodd mam.mom.mum wahanol agweddau ar fod yn fam. Gwelodd Tyson fod dod yn fam yn brofiad a newidiodd ei bywyd yn llwyr, newidiodd ei harfer am byth, roedd yn gweld ei hun yn holi a allwch chi fod yn fam ac yn artist? Gan ddewis credu mai gallwch ydi’r ateb, mae Tyson hefyd wedi dod i'r casgliad bod y ddau yn symbiotig iddi hi, ei bod hi'n ymgorffori’r ddau trwy’r amser.
Gwahoddodd Tyson nifer o fam-artistiaid eraill yng Ngogledd Cymru i gymryd rhan mewn cyfnod preswyl byr, gan arwain at arddangosfa grŵp a gwaith sy'n benodol i safle. Ochr yn ochr â'r gosodiadau a ddeilliodd o hynny roedd sawl gweithdy gyda mamau lleol lle gallent ryddhau eu creadigrwydd ac archwilio eu statws eu hunain fel mamau.
Boob Car is a soft fabric breast, pertly perched on wooden toy wheels. It is deceptively friendly and sweet; a child’s plaything. There are plenty of boobs in art, yet this piece shockingly repositions the breast from a source of pleasure only deemed appropriate for adult males. The breast is nourishment, comfort, but also amusement for the child. With breastfeeding rates in Britain the lowest in the World, yet the health benefits undeniable, this is a crucial societal problem.
Mae’r Car Bŵb yn fron ffabrig feddal, wedi'i gosod yn dalog ar olwynion tegan pren. Mae'n dwyllodrus o gyfeillgar ac annwyl; yn wrthrych i blentyn chwarae hefo fo. Mae digon o fronnau mewn gweithiau celf, ac eto mae'r darn hwn yn symud y fron, yn drawiadol, o fod yn ffynhonnell pleser sy’n cael ei hystyried yn addas i oedolion o ddynion yn unig. Mae'r fron yn ffynhonnell maeth, cysur, ond hefyd ddifyrrwch i’r plentyn. Gyda chyfraddau bwydo ar y fron ym Mhrydain yr isaf yn y Byd, er bod y manteision o ran iechyd yn bendant, mae hon yn broblem gymdeithasol hollbwysig.
mam.mom.mum
© Alana Tyson